Amser a Llanw: Teithio Tirweddau Hudolus
Diwrnod Astudio
ar Gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7ED
Dydd Mercher 22 Mawrth 2023
9.30am ar gyfer 10am – 4.30pm
Yn y gadair, Hilary Davies
Lleoliad Yr Hen Neuadd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Campws Llanbedr Pont Steffan
Siaradwyr
James Harpur St Columba and the Poetic Imagination
Hugh Lupton A Consolation of Stars
Christine Rhone Twelve-fold Harmony: Symbol and Place
Archebu ymlaen llaw yn unig – Mynediad am ddim
Caiff cinio llysieuol ysgafn ei ddarparu, yn ogystal â choffi/te, yn rhad ac am ddim.
E-bost: temenosacademy@myfastmail.com
Ffôn: (01233) 813663
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i
https://www.temenosacademy.org/lampeter-study-day-22-march-2023/
Llety
Mae amrywiaeth o lety ar gael yn nhref Llanbedr Pont Steffan. I holi am lety gwely a brecwast ar gampws Llanbedr Pont Steffan, cysylltwch â’r Swyddfa Llety accommodation@uwtsd.ac.uk
St Columba and the Poetic Imagination
James Harpur
Mae’r sgwrs ddarluniadol hon yn archwilio’r ffigur Sant Columba (Columcille mewn Gwyddeleg) yn y dychymyg barddonol neu fythig. Ganed Columba yn 521, a gadawodd Iwerddon am ynys Iona i sefydlu mynachlog a helpodd i ledaenu’r ffydd Gristnogol yn y tir sy’n cael ei adnabod heddiw fel yr Alban a gogledd Lloegr. Roedd Columba yn fwy nag abad ac efengylwr – roedd yn arweinydd bugeiliol carismatig, yn wleidydd talentog, yn grewr gwyrthiau, yn iachäwr, yn glirweledwr ac yn fardd. Ni fydd James yn edrych ar Columba fel person hanesyddol, ond yn hytrach fel yr enghraifft glasurol o Fardd, Pererin ac Alltud, tri ffigwr arwyddocaol yn niwylliant Iwerddon a dychymyg hanesyddol y wlad.
James Harpur yw golygydd barddoniaeth Temenos Academy Review ac mae wedi cyhoeddi wyth cyfrol o farddoniaeth, a’i nofel gyntaf sef The Pathless Country. Mae ei gyfrol, The Oratory of Light, sef cerddi wedi’u hysbrydoli gan Iona a Sant Columba, wedi cael ei chyhoeddi gan Wild Goose Press. Mae’n byw yng Ngorllewin Cork.
Twelve-fold Harmony: Symbol and Place
Symbol o urdd y cosmos dwyfol yw’r ddelwedd a geir dro ar ôl tro mewn hen chwedlau Prydeinig sef deuddeg marchog, seintiau, meudwyaid, neu genhadon o amgylch un ffigwr canolog, sef y Brenin Arthur a’i Farchogion, neu Sant Columba a’i gymdeithion, adlewyrchiad ar y ddaear o’r clystyrau sy’n troi o amgylch yr echelin begynol. Mae perthnasoedd rhwng y ddaear a’r awyr yn sail i chwedlau mytholegol ledled y byd: y deuddeg arwydd y sidydd, yr heuldroeon a’r cyhydnosau, wynebau newidiol y lleuad, llwybrau dyddiol goleuni’r haul. Y deuddeg adran sy’n ymestyn o ganol cysegredig neu temenos yw’r enghraifft glasurol o ddinas neu gymdeithas ddelfrydol Platon, a ddisgrifir yn y Cyfreithiau, llyfr 5, sydd hefyd yn amlwg yng nghynllun heneb Côr y Cewri a phensaernïaeth Eglwys Gadeiriol Wells. Mae’r patrwm hwn yn cyd-fynd â dinas bedwarplyg y dychymyg dwyfol William Blake, fel mandala o ymwybyddiaeth, yn symbol o’r bydysawd hynafol dynol yn ei gyfanrwydd.
Mae Christine Rhone, cyfieithydd, llenor, trefnydd digwyddiadau, ac athrawes wedi ymddeol, yn gydawdur Twelve-Tribe Nations and the Science of Enchanting the Landscape gyda John Michell, ac mae hi’n cyfrannu’n rheolaidd at y Temenos Academy Review ers 2008. Mae ei chyfrol o gyfieithiadau yn cynnwys Sacred Geography of the Ancient Greeks gan Jean Richer, Saint Francis of Assisi gan Jacques Le Goff, Theosophy, Imagination, Tradition: Studies in Western Esotericism gan Antoine Faivre, a sawl papur ar gyfer Prifysgol Lausanne.
A Consolation of Stars
‘We drew lines between the silver scatterings of the heavens
and showed the stories of ourselves to ourselves.’
Mae’r dilyniant hwn o chwedlau cydgysylltiol Groegaidd yn sôn am greu rhai o’r cytserau mwyaf amlwg yn awyr y nos, gan gynnwys Orion, y Periones, Scorpio, Pegasws a’r Alarch.
Mae Hugh Lupton yn chwedleuwr proffesiynol ers 1981. Mae’n adrodd straeon o bob cwr o’r byd, ond ei angerdd penodol yw’r haenau cudd o dirwedd Prydain a’r straeon a’r baledi sy’n rhoi llais iddyn nhw.
Mae hefyd (gyda Daniel Morden) yn adrodd llawer o straeon o fytholeg Groeg, gan gynnwys yr Iliad a’r Odyseia. Yn 2006, dyfarnwyd gwobr y Gymdeithas Glasurol i Hugh a Daniel am ‘y cyfraniad mwyaf arwyddocaol at ddealltwriaeth y cyhoedd o’r clasuron’.
Mae wedi ysgrifennu sawl casgliad o chwedlau gwerin i blant (a gyhoeddwyd gan Lyfrau Barefoot). I oedolion, mae’r gwaith a gyhoeddwyd ganddo yn cynnwys ‘Northfolk Folk Tales’ a dwy nofel: ‘The Ballad of John Clare’ (a gyhoeddwyd yn 2010) a ‘The Assembly of the Severed Head’ (a gyhoeddwyd yn 2018). Yn fwyaf diweddar, mae casgliad o’i waith llenyddol ar fythau ‘The Dreaming of Place’ wedi cael ei gyhoeddi gan Propolis Books (2022).
Mae hefyd yn fardd ac yn awdur geiriau.
Trefnwyd gan
The Temenos Academy elusen gofrestredig 1043015
a The Harmony Institute, Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant